Strategaeth Ddigidol
Y Drindod Dewi Sant

2021-2023
Sgroliwch i weld

"Pobl yn gyntaf, technoleg yn dilyn"

Mae’r Strategaeth Ddigidol hon yn cydweddu â Chynllun Strategol y Brifysgol, ein Cynlluniau Ffioedd a Mynediad a strategaethau allweddol megis Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 – 2024, a’r Strategaeth Iechyd a Lles Myfyrwyr 2020 – 2024. Bydd y strategaeth hefyd yn ceisio cydweddu pan fo’n bosibl â’r Strategaeth Ddigidol Colegau AB 2021-2024 ar gyfer y Grŵp PCYDDS ehangach.

Bydd hefyd yn cefnogi thema gyfoethogi 2020 – 2022 y Brifysgol, sef dysgu cyfunol er mwyn newid y cysyniad o ddysgu digidol fel rhywbeth sydd ar wahân i addysgu wyneb-yn-wyneb drwy ymgorffori dull sy’n ymwneud â dysgu yn ei ystyr ehangach a thrwy rymuso ein cymuned i ddefnyddio’r dechnoleg i gefnogi addysgeg arloesol a chreadigol ar draws y Brifysgol. Yn olaf, nod y strategaeth yw cefnogi dyheadau sefydliadol ynghylch datblygu partneriaethau masnachol dyfnach er mwyn galluogi profiad prifysgol cyfoethocach i’n myfyrwyr a’n staff.

Mae gan y strategaeth ffocws ar ein pobl, a’n nod yw cefnogi’r holl staff a myfyrwyr yn y defnydd effeithiol o dechnoleg ddigidol. Er mwyn bodloni holl flaenoriaethau strategol y Brifysgol, mae’n hanfodol i’r Brifysgol wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch yr offer a’r dechnoleg ddigidol mae’n eu cefnogi ac wedyn ei bod yn eu defnyddio’n effeithiol. Mae hefyd yn hollbwysig bod y Brifysgol yn manteisio i’r eithaf ar y seilwaith technoleg sydd eisoes yn ei le.

Ar gyfer y strategaeth hon, rydym wedi gosod chwe amcan lefel uchel, wedi’u seilio ar gynllun gweithredu strategol, a chynllun eglur i fonitro ac adolygu cynnydd a llwyddiant. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â staff a myfyrwyr o ran gweithredu’r Strategaeth Ddigidol newydd.

Ein taith a'n Diben

Ein Taith

Ar ddechrau 2020 roedd y Brifysgol yn symud tuag at ddiwedd dwy strategaeth sefydliadol allweddol, y Strategaeth Dysgu ac Addysgu (2017-20) a’r Strategaeth Technoleg a Systemau Gwybodaeth (2017-20). Penderfynwyd bod 2020 yn gyfle am ddull newydd yn y cyswllt digidol o fewn y Brifysgol ac y dylid cydweddu strategaethau allweddol (Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu, TaSG, TEL, Dysgu ac Addysgu) â dull Dysgu ac Addysgu newydd a datblygu galluogrwydd digidol y sefydliad. Meithrinwyd ffocws ar ddatblygu Strategaeth Ddigidol newydd yn 2020 ac roedd trafodaethau eisoes wedi dechrau digwydd.

Mae COVID-19 wedi achosi newid digidol yn addysg uwch sy’n fwy nag unrhyw beth cyn hynny. Cyn Mawrth 2020, roedd mwyafrif helaeth y dysgu, addysgu, ymchwil a gweinyddu yn y Brifysgol yn digwydd wyneb yn wyneb, ar wahân i’r ychydig feysydd hynny a oedd yn arbenigo mewn darpariaeth ar-lein. Symudodd y Drindod Dewi Sant yn gyflym i ddatblygu atebion ar gyfer y cyfnodau yn union ar ôl ymddangosiad COVID-19. Cydweithiodd y Gwasanaethau Academaidd a Phroffesiynol i ddatblygu lefelau sylweddol o gynnwys digidol i gefnogi’r newid o ran darparu’r cwricwlwm. At hynny, symudodd timau gweinyddu, cymorth a phroffesiynol y Brifysgol yn gyflym i gyflwyno gwasanaethau ar-lein.

Mewn llawer o feysydd roedd y dull cychwynnol yn gadarnhaol iawn, ond yn adweithiol o ran natur, sy’n hollol ddealladwy o ystyried cyd-destun COVID-19. Fodd bynnag, roedd nifer o risgiau yma, yn enwedig ynghylch cynaliadwyedd y dulliau a chadernid digidol yn yr hirdymor. O ganlyniad, datblygodd y sefydliad nifer o fentrau craidd a luniwyd i helpu staff a myfyrwyr drwy ddarparu sylfeini ar gyfer unrhyw ddulliau yn y dyfodol ar gyfer trawsnewid digidol. Ein nod bellach yw atgyfnerthu ac adeiladu ar y gwaith hwn drwy ddatblygu strategaeth sy’n amlinellu fframwaith cydlynol i alluogi trawsnewid digidol pellach ar draws y Brifysgol.


Ein Diben

Bydd y strategaeth hon yn cefnogi’r holl strategaethau a fframweithiau thematig a galluogi ar draws y sefydliad. Nod y strategaeth hon yw symud tu hwnt i ffiniau adrannau drwy gefnogi a galluogi trawsnewid digidol ar draws y Brifysgol gyfan, ar gyfer Dysgu ac Addysgu, Ymchwil, Masnacheiddio, Partneriaethau Cydweithredol a Gwasanaethau Proffesiynol. Yn ganolog i’r strategaeth mae themâu ynghylch rheoli newid, ymgysylltu â defnyddwyr, partneriaeth a chydweithredu a pherchnogaeth systemau. Mae angen i ni gydnabod ac annog arfer da ond gan gydnabod prosesau ac arferion nad ydynt yn gweithio’n dda. Bydd yr elfennau diwylliannol hyn yn cael effaith sylweddol ar lwyddiant y strategaeth. Hefyd mae angen i ni ddathlu’r camau arwyddocaol rydym wedi’u cymryd dros y flwyddyn ddiwethaf sy’n hwyluso’r strategaeth hon ac sy’n sail i’r gwaith pellach sy’n ofynnol er mwyn trawsnewid y sefydliad yn ddigidol.

Mae hwn yn fframwaith strategol i’r Brifysgol gyfan, dull sy’n darparu llwybr sy’n galluogi ac yn grymuso ac yn sicrhau y caiff yr amgylchedd digidol ei ymgorffori wrth wraidd y sefydliad. 0} Ei nod yw lliniaru risgiau cyfredol ynghylch gorddibyniaeth ar brosesau canolog unigol, er mwyn symud i sefyllfa fwy agored ac â mwy o dryloywder o ran llif gwaith. Bydd hyn yn ei dro’n cefnogi’r agenda ehangach ynghylch llesiant staff a myfyrwyr, ac ar yr un pryd yn sicrhau lefel uwch o gadernid a chynaliadwyedd o ran seilwaith y Brifysgol.

Sut rydym wedi datblygu’r strategaeth hon

Er mwyn dynodi amcanion a rhoi ffurf ar y cynllun gweithredu, ymgymeron ag ymarfer ymgynghori helaeth â rhanddeiliaid allweddol ar draws y Brifysgol. Bu’r ymgysylltu hwn yn gymorth i ni ddeall anghenion ein cymuned ac mae wedi sicrhau ein bod wedi llunio strategaeth sy’n adlewyrchu lleisiau o bob rhan o’r Brifysgol.

Bu’r cyfnod ymgynghori yn gymorth uniongyrchol i ddiffinio set realistig o amcanion strategol, ac ar yr un pryd roedd yn cofnodi lefel o ddyhead ac uchelgais. Nod y strategaeth yw rheoli disgwyliadau yn ogystal â grymuso’r sefydliad i barhau i drawsnewid yn sefydliad a alluogir yn ddigidol.

Mae’r adborth o’r broses ymgynghori wedi bod yn gadarnhaol dros ben a’n nod bellach yw datblygu Cynllun Cyfathrebu i gydredeg ag oes y strategaeth er mwyn galluogi trafodaethau parhaus â staff a myfyrwyr. Mae’n hollbwysig bod y strategaeth yn parhau i gael ei hysbysu gan yr ymgysylltu hwn er mwyn sicrhau cymeradwyaeth o bob rhan o’r sefydliad.

Sut byddwn yn monitro ac yn adolygu’r strategaeth

Mae’r cynllun gweithredu strategol yn nodi’r prif flaenoriaethau i gefnogi’r strategaeth, ar y cyd â chynllun gweithredu gweithredol a gaiff ei adolygu’n rheolaidd gan y Tîm Arweinyddiaeth Weithredol a’r Tîm Cynllunio Academaidd. At hynny, caiff diweddariadau eu rhannu’n rheolaidd â’r Senedd a’r Cyngor.

Ymgymerir ag ystod o weithgareddau mewnol ac allanol i werthuso llwyddiant y strategaeth. Ein bwriad yw dechrau defnyddio Arolygon Deall y Profiad Digidol JISC i staff a myfyrwyr i fesur sut mae ein myfyrwyr a staff yn defnyddio ein technoleg, beth sy’n gwneud gwahaniaeth a lle gellir gwneud gwelliannau.


Effaith ar Grŵp PCYDDS

Bydd y Strategaeth hefyd yn ceisio meithrin ymgysylltiad â’r Colegau AB yn rhan o’r dull ar gyfer y Grŵp PCYDDS ehangach. Yn rhan o’r broses o ddatblygu’r strategaeth, rydym wedi adolygu Strategaeth Ddigidol gyfredol PCYDDS a’r Colegau AB, ac, gan weithio gyda chydweithwyr AB, rydym wedi dynodi mentrau allweddol trosbynciol lefel uchel yr hoffem weithio arnynt fel rhan o ddull ar gyfer y grŵp.


Dysgu ac Addysgu Datblygu ymgysylltu ynghylch dysgu ac addysgu digidol drwy rannu arfer gorau a dulliau AB/AU.
Sgiliau Digidol Gweithio’n agos ar ddull cyson o ran datblygu sgiliau digidol ar gyfer AB ac AU.
Seiberddiogelwch Datblygu ymgysylltu o ran dulliau Seiberddiogelwch i gefnogi Trawsnewid Digidol.
Integreiddio Systemau Adolygu cyfleoedd i alinio ac integreiddio Systemau TG craidd er mwyn hwyluso dulliau gweithio yn y dyfodol megis rhannu cyfleusterau campws.
Meithrin Cymuned Grŵp Ddigidol Creu sail i’r dulliau uchod drwy feithrin cymuned ddigidol ar gyfer Grŵp PCYDDS i wella ymgysylltu o ran trawsnewid digidol

Amcanion a Chynllun Gweithredu

Er mwyn cyflawni trawsnewid digidol a chefnogi blaenoriaethau strategol y Brifysgol, dynodwyd chwe thema. Mae’r themâu hyn wedi’u datblygu mewn cydweithrediad â staff academaidd, staff gwasanaethau proffesiynol a myfyrwyr. Maent yn ceisio mynd i’r afael ag anawsterau i ddefnyddwyr a ddynodwyd yn y broses ymgynghori, ond maent hefyd yn adlewyrchu arfer gorau’n fewnol ac ar draws y sector, gyda’r nod o gefnogi’r Brifysgol i ddod yn arweinydd digidol o fewn y gymuned addysg uwch.

Er mwyn sicrhau cydweddu a chysondeb â strategaeth ehangach y sefydliad, mae pob un o’r amcanion wedi’i fapio i’r flaenoriaeth strategol sefydliadol berthnasol, a grynhoir isod.


Blaenoriaethau Strategol y Brifysgol

  • Blaenoriaeth Strategol 1 – Rhoi Dysgwyr yn Gyntaf
  • Blaenoriaeth Strategol 2 – Rhagoriaeth mewn Addysgu, Ysgolheictod ac Ymchwil Cymhwysol
  • Blaenoriaeth Strategol 3 – Creu Cyfleoedd trwy Bartneriaethau
  • Blaenoriaeth Strategol 4 – Prifysgol i Gymru

Blaenoriaethau Strategol y Brifysgol


Dewiswch yr amcan i ddarganfod mwy.



Galluogrwydd Digidol
Galluogrwydd digidol yw’r term eang a ddefnyddir i ddisgrifio’r sgiliau, y wybodaeth a’r agweddau sydd eu hangen ar unigolion a sefydliadau os ydynt yn mynd i ffynnu yn y byd sydd ohoni.

Allgau Digidol
Allgau digidol yw pryd mae unigolyn neu grŵp dan anfantais yn ddigidol oherwydd rhwystrau cymdeithasol i ddatblygu sgiliau, cysylltedd a hygyrchedd.

Llythrennedd Digidol
Ystyr llythrennedd digidol yw meddu ar y sgiliau penodol sydd eu hangen arnoch i fyw, dysgu a gweithio mewn cymdeithas lle mae cyfathrebu a mynediad at wybodaeth yn digwydd yn fwyfwy drwy dechnolegau digidol megis platfformau rhyngrwyd, y cyfryngau cymdeithasol a dyfeisiau symudol.

Cadernid Digidol
Digital resilience can be defined as an organization's ability to maintain, change or recover technology-dependent operational capability.

Sgiliau Digidol
Diffinnir sgiliau digidol yn fras fel y rheini sydd eu hangen i ddefnyddio dyfeisiau digidol, cymwysiadau cyfathrebu, a rhwydweithiau i gael mynediad at wybodaeth a’i rheoli.

Technoleg Ddigidol
Technolegau digidol yw offer, systemau, dyfeisiau ac adnoddau electronig sy’n creu, yn storio neu’n prosesu data.

Trawsnewid Digidol
Trawsnewid digidol yw integreiddio technoleg ddigidol i bob maes mewn busnes, gan newid yn sylfaenol y ffordd rydych yn gweithredu ac yn cyflwyno gwerth. Mae hefyd yn newid diwylliannol sy’n ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau herio’r status quo yn barhaus, arbrofi a bod yn gyfforddus â methu.