Cefndir Glass

Strategaeth Ddigidol PCYDDS


2021-23 a 2024-26

Staff member touching screen

Student reading piece of paper

Students looking at old manuscripts

Diweddariad 2023/24

Yn 2023, penderfynwyd ymestyn cwmpas strategaeth ddigidol bresennol 2021-23 tan 2026. Mae egwyddorion sylfaenol y strategaeth wreiddiol yn aros yr un fath. Croesawyd y strategaeth ei hun yn fewnol, ond hefyd yn allanol yn y sector. Cafodd ei nodi yn un o bum Strategaeth Ddigidol enghreifftiol yn y maes AU yn adroddiad JISC 2023 Digital Strategies in UK Higher Education.

Mae ymestyn strategaeth ddigidol lwyddiannus yn bwysig oherwydd gall helpu busnes neu sefydliad i barhau i dyfu a chyflawni ei nodau. Nid yw strategaethau digidol yn sefydlog, ac er mwyn parhau’n berthnasol ac yn gystadleuol, mae angen eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd. Yn ogystal, wrth i dechnolegau a thueddiadau newydd ddod i’r amlwg, mae’n bwysig asesu sut y gellir eu hymgorffori yn y strategaeth ddigidol bresennol.

Drwy ymestyn ein strategaeth ddigidol lwyddiannus bresennol, gall y Drindod Dewi Sant:

1

Parhau i ddiwallu anghenion myfyrwyr a staff

Wrth i anghenion a disgwyliadau digidol esblygu; mae’n bwysig sicrhau bod y strategaeth ddigidol yn parhau i ddiwallu’r anghenion hynny trwy wella profiad myfyrwyr a staff.


2

Parhau i fod ar flaen y gad o ran Gwasanaethau Digidol yn y sector

Trwy wella’r strategaeth ddigidol yn barhaus, gall y brifysgol aros ar y blaen i gystadleuwyr a chynnal mantais gystadleuol.


3

Gwella cynaliadwyedd sefydliadol

Gall strategaeth ddigidol lwyddiannus gyfrannu’n uniongyrchol at gynaliadwyedd sefydliadol trwy gynnig gwell profiad i fyfyrwyr a staff a phrosesau busnes mwy effeithlon.


Yn ogystal ag adnewyddu’r nodau, amcanion a’r cynlluniau gweithredu perthnasol, roedd hefyd yn gyfle i adfyfyrio ar ddau faes allweddol. Yn gyntaf, mae ymestyn y strategaeth yn caniatáu i ni edrych ar ddatblygu gwerthoedd craidd fel rhan ohono, rhywbeth a all fod yn gyson ar draws Gwasanaethau Digidol. Yn ail, hyrwyddo hefyd y gwaith sylweddol a wnaed fel rhan o strategaeth gychwynnol 2021-23, ac mae’r ddau yn cael eu hadlewyrchu yn y strategaeth hon.

Sylwch, er y gall rhywfaint o’r iaith a ddefnyddir yn y strategaeth hon fod yn gymhleth ac ar adegau yn dechnegol, ceir adran ar ddiffiniadau a thermau yn y ddogfen hon.

Two happy students

Student wearing VR headset

University staff in meeting

Dull y Strategaeth

"Pobl yn gyntaf, technoleg yn dilyn"

Mae’r Strategaeth Ddigidol hon yn cyd-fynd â Chynllun Strategol a Chynlluniau Ffioedd a Mynediad ein Prifysgol ac mae wedi’i chysylltu’n uniongyrchol â strategaethau allweddol megis Strategaeth Llwyddiant Academaidd y brifysgol, y Strategaeth Cyflogadwyedd, Ymchwil ac Arloesi, y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Strategaeth Iechyd a Lles Myfyrwyr 2020 – 2024. Bydd y strategaeth hefyd yn ceisio cyd-fynd lle bo hynny’n bosibl â Strategaeth Ddigidol y colegau AB fel rhan o ddull grŵp ehangach y Drindod Dewi Sant.

Yn rhan o ddull edefyn aur, bydd y strategaeth ddigidol hefyd yn goruchwylio dwy strategaeth sefydliadol allweddol, y Strategaeth TG a Strategaeth y Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu. Bydd y ddwy yn cefnogi’r strategaeth ddigidol ac yn sicrhau bod edefyn aur o bob strategaeth yn arwain i mewn i’r strategaeth ddigidol, sydd yn ei thro yn arwain yn uniongyrchol at y cynllun strategol sefydliadol, gan dynnu sylw at y dylanwad uniongyrchol y mae’r strategaethau hyn yn ei gael ar gyflawni nodau ac amcanion sefydliadol.

Wrth wraidd unrhyw strategaeth ddigidol mae’r gred sylfaenol y dylid dylunio technoleg i wasanaethu pobl, nid y ffordd arall o gwmpas. Dyma’r ethos arweiniol y tu ôl i’n strategaeth ddigidol, sy’n gosod pobl wrth wraidd ein holl fentrau digidol. Credwn fod technoleg yn arf pwerus a all ein helpu i gyflawni ein nodau, ond rhaid ei gynllunio gyda phobl mewn golwg. Mae ein strategaeth wedi’i seilio ar yr egwyddor “pobl yn gyntaf, technoleg i ddilyn”, sy’n golygu ein bod yn blaenoriaethu anghenion pobl yn ein holl ymdrechion digidol. Trwy gofleidio’r ethos hwn, ein nod yw creu atebion digidol sydd nid yn unig yn effeithiol ac yn effeithlon ond hefyd yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn hawdd eu defnyddio. Mae ein strategaeth yn ceisio manteisio ar dechnoleg i wella’r profiad dynol, tra hefyd yn sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio’n gyfrifol, yn foesegol ac yn gynaliadwy.

Ar gyfer y strategaeth hon, rydym wedi pennu chwe amcan parth lefel uchel, wedi’u hategu gan set o fesurau llwyddiant lefel uchel a fydd yn caniatáu inni fesur effaith y strategaeth. Yn ogystal â’r rhain, bydd gan bob uned o fewn Gwasanaethau Digidol gynlluniau gweithredu clir ar waith a fydd yn cael eu diweddaru’n flynyddol i adlewyrchu’r broses gynllunio flynyddol, ac sy’n cyfeirio’n uniongyrchol at y mesurau llwyddiant, i’n galluogi i fonitro ac adolygu.

Cefndir Glass
ADRAN 1

Ein Taith, Diben a Gwerthoedd Craidd

Student reading book

The University's Immersive Room

Ein Taith

Ar ddechrau 2020 roedd y Brifysgol yn symud tuag at ddiwedd dwy strategaeth sefydliadol allweddol, y Strategaeth Dysgu ac Addysgu (2017- 20) a’r Strategaeth Technoleg Gwybodaeth (2017- 20). Penderfynwyd bod 2020 yn gyfle am ddull newydd yn y maes digidol o fewn y Brifysgol ac y dylid alinio strategaethau allweddol (Llyfrgell ac Adnoddau Dysgu, TaSG, TEL, Dysgu ac Addysgu) a datblygu galluogrwydd digidol y sefydliad. Meithrinwyd ffocws ar ddatblygu Strategaeth Ddigidol newydd yn 2020 ac roedd trafodaethau eisoes wedi dechrau digwydd.

Ar yr adeg hon, daeth Covid ac achosi newid digidol enfawr mewn addysg uwch. Cafodd y gwaith adweithiol cychwynnol ei ategu gan gyfres o fentrau i ddatblygu sylfaen ar gyfer trawsnewid digidol yn y dyfodol. Mae creu cyfarwyddiaeth newydd - Gwasanaethau Digidol – sy’n cynnwys TG, TEL a LlAD ynghyd â strwythur newydd, yn ogystal â fframwaith digidol ar gyfer dysgu cyfunol gyda grwpiau ategol (Technoleg Addysg ac Arweinyddiaeth Dysgu Cyfunol) wedi helpu i arwain at greu’r Strategaeth Ddigidol sefydliadol newydd yn 2021.

Gweithredwyd y Strategaeth Ddigidol gychwynnol o 2021-2023 ac fel rhan o’n dull ymgysylltu (manylion pellach yn adran 2) ar gyfer ymestyn y strategaeth tan 2026, roedd yn flaenoriaeth allweddol asesu ei heffaith a chasglu’r adborth hwn i lywio’r strategaeth estynedig.

Mae hefyd yn bwysig edrych i ddathlu llwyddiant lle bo hynny’n bosibl, gyda’r gwaith a wnaed fel rhan o strategaeth ddigidol 2021-23 yn alluogwr allweddol i’r sefydliad.

Mae rhai o’r uchafbwyntiau’n cynnwys y canlynol:

Uchafbwyntiau

  • Gweithredu Strwythur Gwasanaethau Digidol Newydd.
  • Creu Grŵp Learning Analytics Menywod mewn Technoleg.
  • Strategaeth TG Newydd.
  • Gweithredu Jisc Learning Analytics.
  • Gwaith Bwrsariaeth Ddigidol Ariannu dyfeisiau a chysylltedd sy’n arwain y sector.
  • Creu’r Ganolfan Ddigidol Crëwyd Fframwaith Sgiliau Digidol a lansiwyd y Ganolfan Ddigidol.
  • Gweithredu System CRM.
  • Strategaeth LlAD Newydd.
  • Lansio Gwefan Newydd.
  • Ystafelloedd Trochi Arloesedd digidol sy’n arwain yn y sector dysgu ac addysgu gan gynnwys cydnabyddiaeth drwy wobrau.
  • Gwella Ystafelloedd Dysgu ac Addysgu Ystafelloedd Hyflex/Hybrid wedi’u gosod ar draws pob campws.
  • Gwelliannau i Addysgeg Ddigidol Canllawiau ar ddylunio dysgu.
  • Creu Tîm Rheoli Cofnodion.
  • Datblygu Cwricwlwm Sgiliau Gwybodaeth Ar-lein.
  • Datblygu Polisi Rhestrau Adnoddau Ar-lein.
  • Gweithredu Amserlennu Canolog a Monitro Presenoldeb.
  • Deallusrwydd Busnes Gwelliannau i ddata a chynnydd mewn galluoedd adrodd.
  • Achrediad Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid LlAD yw’r tîm cyntaf yn y Drindod Dewi Sant i gyflawni hyn.
  • Gwelliant yn y sgôr adnoddau dysgu yn arolwg NSS O 2021 – 63.2% O 2022 – 72.4% O 2023 – 82.5%.
  • Gwelliannau yn y Seilwaith Digidol Uwchraddio Wi-Fi yn y Neuaddau ac ar y Campws, gweithredu Wi-Fi Gwesteion, rhwydweithiau ardal storio (SAN) newydd.
  • Seiberddiogelwch Cyber Essentials Plus (yr unig Brifysgol yng Nghymru i gael archwiliad llawn o fesurau newydd) yn ogystal â sawl menter newydd.
  • Arddangosfeydd Digidol Arwyddion digidol, sgriniau digidol ar waliau, totemau digidol, cyfarwyddiadau digidol i ddangos y ffordd mewn Llyfrgelloedd.

Students navigating a touch screen

Lecturer and school children in a classroom

Ein Diben

Bydd y strategaeth hon yn cefnogi’r holl strategaethau a fframweithiau thematig a galluogi ar draws y sefydliad. Nod y strategaeth hon yw symud tu hwnt i ffiniau adrannau drwy gefnogi a galluogi trawsnewid digidol ar draws y brifysgol gyfan, ar gyfer Dysgu ac Addysgu, Ymchwil, Partneriaethau Cydweithredol a Gwasanaethau Proffesiynol. Yn ganolog i’r strategaeth mae themâu rheoli newid, ymgysylltu â defnyddwyr, partneriaeth a chydweithredu a pherchnogaeth systemau. Mae angen i ni adnabod ac annog arfer da ond hefyd gydnabod prosesau ac arferion nad ydynt yn gweithio’n dda. Bydd yr elfennau diwylliannol hyn yn cael effaith sylweddol ar lwyddiant y strategaeth. Hefyd mae angen i ni ddathlu’r camau sylweddol rydym wedi’u cymryd dros y flwyddyn ddiwethaf sy’n hwyluso’r strategaeth hon ac sy’n sail i’r gwaith pellach sy’n ofynnol er mwyn trawsnewid y sefydliad yn ddigidol.

Mae hwn yn fframwaith strategol i’r Brifysgol gyfan, dull sy’n darparu llwybr sy’n galluogi ac yn grymuso ac yn sicrhau y caiff yr amgylchedd digidol ei ymgorffori wrth wraidd y sefydliad. Ei nod yw gwella cadernid digidol, er mwyn symud i sefyllfa fwy agored ac â mwy o dryloywder o ran llif gwaith. Bydd hyn yn ei dro’n cefnogi’r agenda ehangach ynghylch llesiant staff a myfyrwyr, ac ar yr un pryd yn sicrhau lefel uwch o gadernid a chynaliadwyedd o ran seilwaith y brifysgol.

Student wearing VR headset

Ein Gwerthoedd Craidd

Mae Gwasanaethau Digidol yn cynnwys pedwar tîm talentog ac unigryw sydd, yn y bôn, yn cefnogi cyflawni’r strategaeth hon. Er bod gan bob tîm ei werthoedd ei hun, fel rhan o broses y strategaeth a’r adfyfyrio parhaus wrth ddatblygu’r timau Gwasanaethau Digidol, roedd yn bwysig edrych ar ddatblygu rhai egwyddorion arweiniol ynghylch ein gwerthoedd a’n dull gweithredu. O’r herwydd, mae’r gwerthoedd craidd isod wedi’u creu i gynorthwyo nid yn unig i gyflawni’r strategaeth ond i ddarparu ymagwedd sylfaenol at yr hyn a wnawn a sut yr ydym yn ei wneud.

Feature Icon

Dull Sy’n Canolbwyntio ar Y Defnyddiwr

Rydym yn ymrwymo i roi defnyddwyr wrth wraidd popeth a wnawn gyda dull ein strategaeth o roi pobl yn gyntaf, technoleg i ddilyn. Mae hyn yn golygu deall eu hanghenion, eu disgwyliadau, a chyd-destun eu defnydd o’n gwasanaethau i greu atebion effeithiol a hawdd eu defnyddio.

Feature Icon

Arloesi a Chreadigrwydd

Gwerthfawrogwn y syniadau a'r safbwyntiau unigryw y mae ein tîm amrywiol yn eu cynnig. Rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd sy'n annog meddwl arloesol ac amrywiol, yn ystyried camgymeriadau yn gyfleoedd dysgu ac yn defnyddio atebion creadigol i ddatrys problemau cymhleth.

Feature Icon

Cyfathrebu Agored, Cydweithio a Gwaith Tîm

Credwn mewn cadw pob llinell gyfathrebu ar agor ar draws yr unedau o fewn Gwasanaethau Digidol, ar draws pob lefel o hierarchaeth ac ar draws pob maes. Er bod unedau gwahanol, rydym yn cydweithio ar draws y gyfarwyddiaeth i rannu gwybodaeth, cyflawni nodau cyffredin, a chreu amgylchedd o ymddiriedaeth.

Feature Icon

Dysgu a Gwella Parhaus

Rydym yn meithrin diwylliant o ddysgu parhaus a datblygu proffesiynol. Gwelwn bob her fel cyfle i dyfu a gwella. Rydym yn annog adborth ac yn ei ddefnyddio'n adeiladol i wella ein gwasanaethau a'n galluoedd personol.

Feature Icon

Ystwythder a Pharodrwydd i Addasu

Gwerthfawrogwn y gallu i addasu i newidiadau, i newid ein dull o wneud rhywbeth pan fo angen, ac i weithio gydag ystwythder a hyblygrwydd i gyflawni ein hamcanion a rhagori ar y disgwyliadau.

Feature Icon

Cynhwysiant ac Amrywiaeth

Credwn fod ein hamrywiaeth ar draws y gyfarwyddiaeth yn gryfder allweddol. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu clywed a'u parchu.

Feature Icon

Ansawdd a Rhagoriaeth

Ymdrechwn am ragoriaeth yn ein gwaith. Rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n bodloni neu'n rhagori ar ddisgwyliadau ein defnyddwyr.

Feature Icon

Gwneud Penderfyniadau a yrrir gan Ddata

Rydym yn gwerthfawrogi pŵer data ac yn manteisio arno i arwain ein proses benderfynu. Defnyddiwn ddangosfyrddau data i arddangos gwybodaeth sy'n helpu ein cyfarwyddiaeth a'r sefydliad i wneud penderfyniadau gwybodus, effeithiol sy'n cael dylanwad. Rydym hefyd yn defnyddio'r data hwn i fonitro dangosyddion perfformiad allweddol (DPA) a darparu mewnwelediad i fesur llwyddiant yr hyn a wnawn.



Cefndir Glass
ADRAN 2

Sut y Gwnaethom Ddatblygu’r Strategaeth Hon

Audio Visual Controler

Students working in library

Ar gyfer strategaeth wreiddiol 21-23, er mwyn nodi amcanion a llunio'r cynllun gweithredu, ymgymeron ag ymarfer ymgynghori helaeth gyda rhanddeiliaid allweddol ar draws y Brifysgol. Bu’r ymgysylltu hwn yn gymorth i ni ddeall anghenion ein cymuned ac mae wedi sicrhau ein bod wedi llunio strategaeth sy’n adlewyrchu lleisiau o bob rhan o’r Brifysgol.

Fel rhan o'r gwaith ymestyn y strategaeth, gwnaethom barhau â'r dull hwn, ac yn ystod y cyfnod o fis Medi i fis Rhagfyr 2023, ymgysylltwyd yn sylweddol â rhanddeiliaid allweddol ar draws y Brifysgol. Canolbwyntiai’r broses hon ar edrych yn ôl ar y strategaeth, yr hyn oedd wedi gweithio ac unrhyw beth na weithiodd, gan edrych ymlaen hefyd at yr hyn y byddai ei angen i gefnogi staff a myfyrwyr.

Unwaith eto, bu’r cyfnod ymgynghori hwn o gymorth uniongyrchol i ddiffinio set realistig o amcanion strategol, ac ar yr un pryd roedd yn cofnodi lefel o ddyhead ac uchelgais. Nod y strategaeth yw rheoli disgwyliadau yn ogystal â grymuso’r sefydliad i barhau i drawsnewid yn sefydliad a alluogir yn ddigidol.

Mae'r adborth o'r broses ymgynghori wedi bod yn hynod gadarnhaol unwaith eto, gydag ymgysylltu rhagorol ar draws sawl maes sydd wedi ein helpu i lunio'r strategaeth i’n harwain i mewn i 2025. Mae’n hollbwysig bod y strategaeth yn parhau i gael ei llywio gan yr ymgysylltu hwn er mwyn sicrhau cefnogaeth o bob rhan o’r sefydliad.

Cynhaliwyd cyfanswm o dros 24 awr o sesiynau ymgysylltu ar draws 14 maes o fewn y brifysgol. Amlinellir rhai o'r themâu o'r broses ymgysylltu isod:

  • Adborth cadarnhaol ar wasanaethau ar draws Gwasanaethau Digidol gyda chyfeiriadau penodol at:
    • Staff cyfeillgar, a chymorth a werthfawrogir.
    • Gwaith y Ganolfan Ddigidol.
    • Ystafelloedd Trochi.
    • Dysgu Digidol a gwaith y Swyddfa Academaidd.

  • Nodwyd gwelliannau gweithredol:
    • Amser cwblhau ceisiadau.
    • Argraffu – materion sylfaenol.
    • Proses dechreuwyr newydd (offer cywir ar y dechrau) – adborth cadarnhaol ar newidiadau diweddar, serch hynny.
    • Dull cyfathrebu – sut rydym yn sicrhau ein bod yn cael y negeseuon allan (gan gynnwys gwerthu llwyddiannau).
    • Dull troi swits – dyfeisiau sy'n gweithio ac yn cysylltu ar unwaith.

  • Parhau i gefnogi meysydd sy'n ystyried dulliau digideiddio, yn ogystal â phrosiectau sefydliadol allweddol ar gyfer systemau digidol newydd.
  • Datblygu a chefnogi dyfeisiau arloesol digidol newydd fel Deallusrwydd Artiffisial (AI).
  • Parhau i ddatblygu dull y Ganolfan Ddigidol o gyflwyno Sgiliau Digidol.
  • Parhau i gefnogi dysgu ar-lein, o gefnogi datblygu cynnwys (addysgeg ddigidol) i systemau Amgylchedd Dysgu Rhithwir masnachol.
  • Datblygu ymhellach y data deallusrwydd busnes sydd ar gael, er mwyn cyflwyno Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) clir y cytunwyd arnynt yn sefydliadol sy'n hawdd eu deall trwy ddangosfyrddau a dulliau cyfatebol.
Cefndir Glass
ADRAN 3

Sut y Byddwn yn Monitro
ac yn Adolygu'r Strategaeth /
Effaith ar Grŵp PCYDDS

UWTSD Immersive Room

Student wearing VR headset

Sut y Byddwn yn Monitro ac yn Adolygu'r Strategaeth

Bwriedir parhau i ddefnyddio Grŵp Llywio'r Strategaeth Ddigidol (DSSG) i fonitro ac adolygu'r strategaeth. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys rhanddeiliaid mewnol allweddol yn ogystal â chynrychiolaeth allanol o Golegau AB Grŵp PCYDDS ac o Jisc.

Fel rhan o strategaeth 21-23, cafwyd cynlluniau gweithredu ag amcanion clir a oedd yn nodi blaenoriaethau allweddol i gefnogi'r strategaeth, ar y cyd â chynllun gweithredu gweithredol. Er y bydd y dull hwn yn parhau yn y strategaeth hon, bydd yr amcanion lefel uchel yn y strategaeth bellach yn cael eu halinio â gwerthoedd clir a ddefnyddir i fesur llwyddiant. Bydd hyn yn ein galluogi i adrodd yn rhwydd ar amcanion y strategaeth a sut rydym yn eu cyflawni.

Bydd allbwn Grŵp Llywio'r Strategaeth Ddigidol yn cael ei adolygu'n rheolaidd gan Uwch Dîm Arwain y Gwasanaethau Proffesiynol, a'i ddarparu ar gyfer gwahanol bwyllgorau a byrddau yn ôl yr angen.

Bydd ystod o weithgareddau meincnodi mewnol ac allanol hefyd yn cael eu cynnal i werthuso llwyddiant y strategaeth fel rhan o'r grŵp llywio a’r adrodd ehangach ar lwyddiant y strategaethau. Byddwn yn parhau i ddefnyddio allbynnau o arolwg blynyddol yr NSS, yn ogystal ag Arolygon Cipolwg ar Brofiadau Digidol Staff a myfyrwyr gan JISC, i fesur sut mae ein myfyrwyr a'n staff yn defnyddio ein technoleg, beth sy'n gwneud gwahaniaeth a ble y gellir gwneud gwelliannau.

Image

Effaith ar Grŵp PCYDDS

Bydd y Strategaeth yn parhau i feithrin ymgysylltiad â'r Colegau AB yn rhan o'r dull ar gyfer y Grŵp PCYDDS ehangach. Yn rhan o'r broses o ddatblygu'r strategaeth, rydym wedi adolygu Strategaeth Ddigidol gyfredol Colegau AB Grŵp PCYDDS a, gan weithio gyda chydweithwyr AB, byddwn yn parhau â mentrau trawsbynciol lefel uchel yr ydym yn gweithio arnynt gyda'n gilydd fel rhan o ddull ar gyfer y grŵp.

Feature Icon

Dysgu ac Addysgu

Datblygu ymgysylltu ynghylch dysgu ac addysgu digidol trwy rannu arfer gorau a dulliau AB/AU.

Feature Icon

Sgiliau Digidol

Gweithio'n agos ar ddull cyson o ran datblygu sgiliau digidol ar gyfer AB ac AU.

Feature Icon

Seiberddiogelwch

Datblygu ymgysylltu o ran dulliau Seiberddiogelwch i gefnogi Trawsnewid Digidol.

Feature Icon

Integreiddio Systemau

Adolygu cyfleoedd i alinio ac integreiddio Systemau TG craidd er mwyn hwyluso dulliau gweithio yn y dyfodol megis rhannu cyfleusterau campws.



Feature Icon

Meithrin Cymuned Grŵp Ddigidol

Creu sail i'r dulliau uchod trwy feithrin cymuned ddigidol ar gyfer Grŵp PCYDDS i wella ymgysylltu o ran trawsnewid digidol.


Cefndir Glass
ADRAN 4

Amcanion Parthau a Chynllun Gweithredu

Staff member using touch screen

Er mwyn cyflawni trawsnewid digidol a chefnogi blaenoriaethau strategol y Brifysgol, dynodwyd chwe thema parth. Datblygwyd y themâu hyn mewn cydweithrediad â staff academaidd, staff gwasanaethau proffesiynol a myfyrwyr. Maent yn ceisio mynd i'r afael ag anawsterau a meysydd i'w datblygu ymhellach a nodwyd yn y broses ymgynghori, ond maent hefyd yn adlewyrchu arfer gorau yn fewnol ac ar draws y sector gyda'r nod o gefnogi'r brifysgol i ddod yn arweinydd digidol o fewn y gymuned addysg uwch.

Er mwyn sicrhau aliniad a chysondeb â'r strategaeth sefydliadol ehangach, mae pob un o'r amcanion wedi'u mapio i'r flaenoriaeth strategol sefydliadol berthnasol, a grynhoir isod.

Two students, one wearing VR headset and smiling

Blaenoriaethau Strategol y Brifysgol

  • Blaenoriaeth Strategol 1 – Rhoi Dysgwyr yn Gyntaf
  • Blaenoriaeth Strategol 2 – Rhagoriaeth mewn Addysgu, Ysgolheictod ac Ymchwil Gymhwysol
  • Blaenoriaeth Strategol 3 – Creu Cyfleoedd trwy Bartneriaethau
  • Blaenoriaeth Strategol 4 – Prifysgol i Gymru

Amcanion y Strategaeth Ddigidol

Parth 1 - Cysylltedd Digidol

Darparu seilwaith digidol sy'n cefnogi'r brifysgol i ddarparu rhagoriaeth addysgol trwy sicrhau cysylltedd diogel, cadarn, sydd wedi’i ddiogelu at y dyfodol, y gellir ei ehangu ac sydd wedi'i gynllunio gyda chynaliadwyedd mewn golwg.

  • Buddsoddi yn ein seilwaith digidol, trwy dechnoleg Wi-Fi newydd, newid rhwydwaith, ac uwchraddio cyflymderau rhyng-gysylltiad i wella dibynadwyedd, cadernid a chyflymder y cysylltedd.
  • Datblygu technolegau dysgu a seilwaith cysylltiedig ar draws y brifysgol i sicrhau ein bod yn cefnogi'r agenda ddigidol ac yn aros ar flaen y gad o ran datblygiadau yn y sector addysg uwch.
  • Gweithredu systemau ac atebion TG newydd sydd ar gael yn ddwyieithog, ynghyd â gwella'r systemau presennol yn barhaus i hwyluso amcanion allweddol y brifysgol.
  • Parhau i ddatblygu ein dulliau Seiberddiogelwch a sicrhau ein bod yn bodloni meini prawf Cyber Essentials Plus ar gyfer y sefydliad cyfan i dynnu sylw at ddull arfer gorau'r brifysgol o ran seiberddiogelwch.

Parth 2 - Cynhyrchiant Digidol

Galluogi staff i fanteisio ar offer a thechnoleg ddigidol i gynyddu cynhyrchiant personol a symleiddio gweithrediadau prifysgol, gan wella profiad myfyrwyr ar yr un pryd.

  • Parhau â'n dull digideiddio i helpu i symleiddio a gwella swyddogaethau'r brifysgol. Gweithio ar y cyd â llais y myfyrwyr, y byd academaidd a gwasanaethau proffesiynol i sicrhau ein bod yn parhau i flaenoriaethu'r datblygiadau a'r integreiddiadau mwyaf effeithiol.
  • Hwyluso gwell llythrennedd data a datblygu data mwy ystyrlon trwy adeiladu ar ein cyfres o adroddiadau cyfredol, yn cynnwys adroddiadau graffigol, gan ganolbwyntio ar Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA) PCYDDS i ddarparu dangosfwrdd DPA sy'n cefnogi gwneud penderfyniadau ar gyfer ystod eang o randdeiliaid.
  • Defnyddio data adrodd manwl i ganiatáu canfod yn gynnar ac atal problemau cyffredin sy'n digwydd dro ar ôl tro, yn ogystal â'r cyfle i awtomeiddio ceisiadau cyffredin.

Porth 3 - Dysgu Digidol

Darparu profiadau dysgu digidol o ansawdd uchel i fyfyrwyr a staff, gan gynnwys cyrsiau ar-lein, dysgu ac addysgu o bell, a modelau dysgu hybrid.

  • Canolbwyntio ar Amgylchedd Dysgu Rhithwir, dadansoddeg dysgwyr a systemau olrhain ymgysylltiad integredig gyda'r gorau yn y maes.
  • Creu mannau ffisegol a digidol cynhwysol sy’n ysbrydoli, a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr wthio ffiniau eu profiadau dysgu.
  • Datblygu fframweithiau a chyfleoedd datblygu perthnasol i wella addysgeg ddigidol o fewn y sefydliad.

Porth 4 - Cynhwysiant Digidol

Sicrhau bod gan bob aelod o gymuned y brifysgol fynediad cyfartal at adnoddau a thechnoleg ddigidol.

  • Gan ddefnyddio meincnodau fel arolwg yr NSS, byddwn yn datblygu cysylltiadau pellach â defnyddwyr i ddeall eu hanghenion ac i gasglu adborth trwy gydol eu taith fel myfyrwyr.
  • Cefnogi cynhwysiant digidol trwy helpu i ddatblygu proses gydlynol o ymgysylltu â myfyrwyr, buddsoddi mewn systemau Rheoli Gwasanaethau Menter (ESM) a Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CRM) a’u datblygu.
  • Gweithio i sicrhau bod ein casgliadau a'n gwasanaethau yn gynrychioliadol o'n cymuned amrywiol o fyfyrwyr a staff.
  • Sefydlu maniffesto cynhwysiant a phecyn cymorth digidol sefydliadol i fesur ein dull cynhwysiant digidol.

Parth 5 - Galluoedd Digidol

Gwella galluoedd digidol myfyrwyr a staff, gan eu galluogi i ddefnyddio offer a thechnoleg ddigidol yn effeithiol yn eu gwaith.

  • Bod yn ganolfan ragoriaeth i ddatblygu sgiliau digidol, gan roi staff a myfyrwyr yn y sefyllfa orau i ddefnyddio technoleg.
  • Ar draws pob maes Gwasanaethau Digidol, creu cyfleoedd datblygu proffesiynol i staff a myfyrwyr trwy ddatblygu hyfforddiant a gweithdai sgiliau digidol.
  • Gan weithio gyda rhanddeiliaid eraill y brifysgol, datblygu cynnwys perthnasol ynghylch gwasanaethau digidol ar gyfer y broses gynefino staff a myfyrwyr, er mwyn sicrhau bod gan ddefnyddwyr fynediad at wybodaeth berthnasol o'r diwrnod cyntaf.

Parth 6 - Arloesi Digidol

Meithrin diwylliant o arloesi digidol a chreadigrwydd o fewn y brifysgol, gan alluogi datblygu syniadau, cynhyrchion a gwasanaethau newydd.

  • Datblygu atebion digidol newydd ac arloesol i gefnogi mentrau sefydliadol newydd.
  • Ymchwilio, datblygu a defnyddio technolegau newydd megis deallusrwydd artiffisial i wella'r gwasanaethau a ddarperir.
  • Grymuso ein cymuned i ymgysylltu â mannau dysgu mewn ffyrdd sy'n ysgogi creu gwybodaeth ac arloesi.

Trwy ddilyn y chwe amcan parth allweddol hyn, gall y brifysgol weithredu strategaeth sy'n manteisio ar dechnoleg i wella dysgu ac addysgu, cynyddu cynhyrchiant, hyrwyddo cynhwysiant a meithrin arloesedd.

Mesur Llwyddiant

Fel y nodir yn y strategaeth hon, ein dull yw cael mesurau llwyddiant clir i ategu'r chwe amcan parth lefel uchel a fydd yn ein galluogi i fesur effaith y strategaethau. Yn ogystal bydd gan bob uned o fewn Gwasanaethau Digidol gynlluniau gweithredu clir ar waith sy'n cyfeirio'n uniongyrchol at y mesurau llwyddiant, i'n galluogi i fonitro ac adolygu. Bydd y rhain hefyd yn rhan o broses gynllunio flynyddol ehangach y sefydliad, gyda diweddariadau blynyddol i adlewyrchu'r blaenoriaethau sefydliadol a'r cynlluniau cymeradwy.

Cefndir Glass
ADRAN 5

Diffiniadau a Thermau

Galluogrwydd Digidol

Galluogrwydd digidol yw'r term eang a ddefnyddir i ddisgrifio'r sgiliau, y wybodaeth a'r agweddau sydd eu hangen ar unigolion a sefydliadau os ydynt yn mynd i ffynnu yn y byd sydd ohoni.

Y Ganolfan Ddigidol

Mae Canolfan Ddigidol PCYDDS yn darparu porth i staff a myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau digidol gan ddefnyddio ystod o offer, gan ddechrau gyda holiadur hunanasesu i werthuso lefelau sgiliau digidol cyfredol, a chynnig adnoddau hyfforddi a datblygu i adeiladu a datblygu'r sgiliau hynny.

Cynhwysiant / Allgau / Tlodi Digidol

Allgau digidol yw pan fydd unigolyn neu grŵp dan anfantais yn ddigidol oherwydd rhwystrau cymdeithasol i ddatblygu sgiliau, cysylltedd a hygyrchedd.

Llythrennedd Digidol

Ystyr llythrennedd digidol yw meddu ar y sgiliau penodol sydd eu hangen arnoch i fyw, dysgu a gweithio mewn cymdeithas lle mae cyfathrebu a mynediad at wybodaeth yn digwydd fwyfwy drwy dechnolegau digidol megis platfformau rhyngrwyd, y cyfryngau cymdeithasol a dyfeisiau symudol.

Cadernid Digidol

Gellir diffinio cadernid digidol fel gallu sefydliad i gynnal, newid neu adfer galluogrwydd gweithredol sy'n dibynnu ar dechnoleg.

Sgiliau Digidol

Diffinnir sgiliau digidol yn fras fel y rhai sydd eu hangen i ddefnyddio dyfeisiau digidol, cymwysiadau cyfathrebu a rhwydweithiau i gael mynediad at wybodaeth a'i rheoli.

Technoleg Ddigidol

Technolegau digidol yw offer, systemau, dyfeisiau ac adnoddau electronig sy'n creu, yn storio neu'n prosesu data.

Trawsnewid Digidol

Trawsnewid digidol yw integreiddio technoleg ddigidol i bob maes mewn busnes, gan newid yn sylfaenol y ffordd rydych yn gweithredu ac yn darparu gwerth. Mae hefyd yn newid diwylliannol sy'n ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau herio'r status quo yn barhaus, arbrofi, a bod yn gyfforddus â methu.